top of page

Marw Heb Ewyllys

Writer: Ruth C Jones
Ruth C Jones
2 days ago
2 min read

Heb ewyllys, mae eich ystad yn atebol i'r gyfraith. Mae'r Rheolau Marwolaeth Heb

Ewyllys yn rhestru mewn trefn benodedig y perthnasau gwaed hynny a fyddai'n

etifeddu. Mae'r rhestr hon yn gymharol gyfyng ac os nad oes unrhyw un o'r perthnasau

a benodir yn y rhestr wedi eich goroesi yna aiff eich holl eiddo i'r Goron.


Heb ewyllys, os ydych chi'n briod a bod gennych blant a bod gwerth eich ystad yn fwy na

£322,000, ni fydd eich gŵr neu wraig yn etifeddu popeth. Byddant yn etifeddu £322,000

a rhennir y gweddill yn gyfartal rhyngddyn' nhw a'ch plant. Os yw gwerth eich cartref yn

fwy na £322,000 nid yw hyn yn ddelfrydol ac fe all achosi trafferthion mawr.


Mae ewyllys yn rhoi'r cyfle i chi benodi gwarchodwyr ar gyfer plant ifanc. Heb benodiad

fel hyn gallai fod anghytuno mawr ynglŷn â phwy fydd yn gofalu amdanyn nhw ar ôl eich

marwolaeth.


Heb ewyllys, oni bai eich bod yn briod gyda'ch partner neu mewn partneriaeth sifil gyda

nhw, fydden nhw'n cael dim byd. Chaiff llys blant nad ydych wedi'u mabwysiadu ddim

byd 'chwaith os nad oes ewyllys. Mae gwneud ewyllys yn rhoi'r cyfle i chi ddarparu ar

gyfer teuluoedd estynedig.


Mae ewyllys hefyd yn eich galluogi i nodi dymuniadau penodol ar gyfer eich angladd. A

ydych am gael eich claddu neu i'ch corff gael ei losgi? Efallai bod gennych

gyfarwyddiadau penodol ynglŷn â lle y dymunwch gael eich claddu neu lle y dymunwch

i'ch gweddillion gael eu gwasgaru.


Mae gwneud ewyllys gan wybod eich bod wedi nodi eich dymuniadau yn dod â

thawelwch meddwl, ac yn sgil yr argyfwng presennol, mae hi efallai yn bwysicach nag y

bu hi erioed i wneud ewyllys.

 
 
 

Comments


Will Writing Service/ Gwasanaeth Ysgrifennu Ewyllysiau

rcerijones@gmail.com

Will Writing Barry, Will Writing Cardiff, Welsh Will Writing, Will Writer Barry, Will Writer Cardiff, Welsh Will Writer, Will Writing Service Barry, Will Writing Service Cardiff

bottom of page